Join our webinar on birth injury and birth trauma support in Wales
4 mins read
Friday 16 October 2026
Contact Cymru is hosting a free online webinar for families of disabled children in Wales, looking at birth injury, birth trauma and where parents can get support.
Taking place on Tuesday 17 November, from 10am to 11.30am, the session will offer professional, expert guidance for families who have experienced a difficult or traumatic birth.
The session includes a live Q&A with our guest speakers, who will talk about the legal, practical and emotional support available.
Our Webinar guest speakers
Laura Weir, Partner at Irwin Mitchell law firm.
Laura is a specialist medical negligence solicitor based in Cardiff, with extensive experience supporting families affected by birth injuries. She helps children and adults who have experienced life-changing injuries access the care, therapies and support they need.
Katy Thomas, Founder and CEO of Mothers Matter
Katy is a qualified counsellor whose personal experiences of baby loss. The challenges of becoming a mother inspired her to establish Mothers Matter. The organisation supports families affected by birth trauma, baby loss and mental health difficulties during pregnancy and after birth, through counselling, online networks, home support and community groups.
How to join
This online webinar is for families of disabled and additional needs children and young people living in Wales only.
Date: Tuesday 17 November 2026
Time: 10am–11.30am
Location: Online via Zoom
You’re welcome to join with your camera and microphone switched off if you prefer. If you would like support setting up the zoom link or getting started with zoom, please email [email protected] and our team will be happy to help you.
Book your place on our birth injury and birth trauma webinar
Ymunwch â’n gweminar ar gymorth efo anafiadau a thrawma ar ôl genedigaeth yng Nghymru
Mae Contact Cymru yn cynnal gweminar ar-lein – yn rhad ac am ddim – i deuluoedd plant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol yng Nghymru. Byddwn yn edrych ar anafiadau a thrawma ar ôl genedigaeth, a ble all rhieni gael cymorth.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal fore dydd Mawrth 17 Tachwedd, rhwng 10 a 11.30 o’r gloch, gan roi arweiniad a gwybodaeth broffesiynol i deuluoedd sydd wedi cael genedigaeth anodd neu drawmatig.
Bydd sesiwn holi ac ateb fyw gyda dau siaradwr gwadd sydd â maes arbenigedd a phrofiad gwahanol.
Ein siaradwyr gwadd yn y Weminar
Laura Weir, Partner efo cwmni cyfreithiol Irwin Mitchell
Mae Laura yn gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn esgeulustod meddygol yng Nghaerdydd. Mae ganddi brofiad helaeth o gefnogi teuluoedd sy’n wynebu effaith anafiadau ar ôl genedigaeth. Mae hi’n helpu plant ac oedolion sydd wedi cael anafiadau sy’n newid eu bywyd i gael y gofal, y therapïau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Katy Thomas, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Mothers Matter
Mae Katy yn gwnselydd cymwysedig. Ei phrofiadau personol o golli babi a’r heriau o ddod yn fam a’i hysbrydolodd i sefydlu Mothers Matter. Mae’r sefydliad yn cefnogi teuluoedd sydd wedi cael profiad o drawma genedigaeth, colli babi a phroblemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth, a hynny trwy gwnsela, rhwydweithiau ar-lein, cymorth yn y cartref a grwpiau cymunedol.
Sut i ymuno
Mae’r weminar ar-lein hon ar gyfer teuluoedd plant a phobl ifanc anabl ac sydd ag anghenion ychwanegol sy’n byw yng Nghymru.
Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026
Amser: Rhwng 10 a 11.30 o’r gloch y bore
Lleoliad: Ar-lein ar Zoom
Mae croeso i chi ymuno gan ddiffodd eich camera a’ch meicroffon, os yw’n well gennych chi. Eisiau help efo agor y ddolen Zoom, neu ddefnyddio Zoom am y tro cyntaf? Mae croeso i chi anfon e-bost i [email protected] a bydd ein tîm yn hapus i’ch helpu.
Cadwch le ar ein gweminar ar anafiadau a thrawma ar ôl genedigaeth
This project is part of our Building Resilience programme in Wales, funded by the National Lottery.
