Free autumn workshops and events for parent carers in North Wales

7 mins read

Thursday 17 September 2026

Tags: disability, workshops, events, contact cymru, contact wales, family support


Contact Cymru has a range of free workshops and events coming up this autumn for families of disabled children and young people in North Wales.

From practical support with your child’s sleep to wellbeing sessions and opportunities to meet organisations offering local support, there’s lots going on in Wrexham, Flintshire and Denbighshire.

Supporting your child’s sleep (Wrexham)

Thursday 24 September, 1pm–3pm
Wellbeing Hub Wrexham

If your child finds it difficult to fall asleep or stay asleep, join us for a free workshop looking at practical ways you can support them.

Led by Dr Marc Johnson of Clinical Wellness and the Contact Cymru team, the session will cover the anatomy of sleep, common sleep issues and possible causes, and practical strategies that could help. We’ll also look at nighttime routines and where to go for further support if your child’s sleep does not improve.

The workshop is for parents and carers in Wales of disabled or additional needs children and young people aged 0–25, with or without a diagnosis.

There will be time for individual questions, and we’ll provide warm drinks and a buffet for everyone attending.

Book your place at our Supporting your child’s sleep workshop

Wellbeing in nature for dads and male carers (Flintshire)

Saturday 10 October, 11am–2pm
Woodland Classroom, Hope, Flintshire

We’re running a free outdoor wellbeing workshop with Woodland Classroom for dads and male carers of disabled or additional needs children and young people who live in or around the Wrexham and Flintshire area.

You’ll spend time outdoors taking part in simple, relaxing activities designed to support wellbeing, with an opportunity to meet other dads and male carers in a friendly environment. You don’t need any previous experience, skills or equipment.

Food and hot drinks will be provided and toilets are available on site. 

Book a place at our Wellbeing in Nature workshop

Eight-week Building Resilience programme (Wrexham)

Starting Thursday 15 October, 12pm–2pm, with 8 weekly sessions
Wellbeing Hub Wrexham

Our free Building Resilience programme gives parent carers the chance to take some time to focus on themselves, meet other parents and develop practical life skills.

Across eight sessions, we’ll explore subjects including managing stress, confidence and self-esteem, time management, setting goals, communication skills and motivation.

The programme is for parents and carers in Wales of disabled or additional needs children and young people aged 0–25, with or without a diagnosis. We ask that participants attend all eight sessions, and you’ll receive a certificate when you complete the programme.

Lunch and hot drinks will be provided at the sessions.

Book your place on our Building Resilience programme

All three Contact Cymru workshops are part of our Building Resilience project, funded by The National Lottery Community Fund.

Stronger Futures Information Fairs in Rhyl and Wrexham

Stronger Futures supports parent carers of disabled and additional needs children and young people (up to age 25) in Wrexham and Denbighshire, through 1-1 and group support.

In October, we’re organising two free information fairs in Wrexham and Rhyl, where we’ll be joined by other local services and organisations who support parent carers. It’s an opportunity to speak to a range of organisations all under one roof and find out what support is available for you and your family. 

Tuesday 6 October, 10am–1pm
ASK Centre, Rhyl

Find out more here

Tuesday, October 20 10am-1pm

Queens Square Social, Rhosddu Road Wrexham LL11 1AT

Find out more here

Stronger Futures is supported and funded by the Neumark Foundation

Gweithdai a digwyddiadau am ddim i rieni sy’n ofalwyr yng Ngogledd Cymru yr hydref hwn

Mae gan Contact Cymru amrywiaeth o weithdai a digwyddiadau am ddim ar y gweill yr hydref hwn ar gyfer teuluoedd plant a phobl ifanc anabl yng Ngogledd Cymru.

O gymorth ymarferol gyda chwsg eich plentyn i sesiynau lles a chyfleoedd i gwrdd â sefydliadau sy’n cynnig cymorth lleol, mae llawer yn digwydd yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

Cefnogi cwsg eich plentyn (Wrecsam)

Dydd Iau 24 Medi, 1pm–3pm
Hwb Lles Wrecsam

Os yw’ch plentyn yn ei chael hi’n anodd mynd i gysgu neu aros ynghwsg, dewch i’n gweithdy am ddim i edrych ar ffyrdd ymarferol y gallwch ei gefnogi.

Dan arweiniad Dr Marc Johnson o Clinical Wellness a thîm Contact Cymru, bydd y sesiwn yn edrych ar anatomeg cwsg, problemau cysgu cyffredin a’u hachosion posibl, a strategaethau ymarferol a allai helpu. Byddwn hefyd yn edrych ar arferion gyda’r nos a ble i fynd am gymorth pellach os nad yw cwsg eich plentyn yn gwella.

Mae’r gweithdy ar gyfer rhieni sy’n ofalwyr yng Nghymru sydd â phlant a phobl ifanc anabl neu sydd ag anghenion ychwanegol, rhwng 0 a 25 oed, gyda diagnosis neu hebddo.

Bydd amser i ofyn cwestiynau unigol, a byddwn yn darparu diodydd poeth a bwffe i bawb sy’n mynychu.

Archebwch eich lle yn ein gweithdy Cefnogi cwsg eich plentyn

Lles ym myd natur i dadau a gofalwyr gwrywaidd (Sir y Fflint)

Dydd Sadwrn 10 Hydref, 11am–2pm
Woodland Classroom, Yr Hob, Sir y Fflint

Rydym yn cynnal gweithdy lles awyr agored am ddim gyda Woodland Classroom ar gyfer tadau a gofalwyr gwrywaidd plant a phobl ifanc anabl neu sydd ag anghenion ychwanegol sy’n byw yn ardal Wrecsam a Sir y Fflint neu’r cyffiniau.

Byddwch yn treulio amser yn yr awyr agored yn cymryd rhan mewn gweithgareddau syml ac ymlaciol sydd wedi’u cynllunio i gefnogi lles, gyda chyfle i gwrdd â thadau a gofalwyr gwrywaidd eraill mewn awyrgylch cyfeillgar. Nid oes angen unrhyw brofiad, sgiliau nac offer blaenorol.

Bydd bwyd a diodydd poeth yn cael eu darparu ac mae toiledau ar gael ar y safle.

Archebwch le yn ein gweithdy Lles ym myd natur

Rhaglen wyth wythnos Meithrin Gwydnwch (Wrecsam)

Yn dechrau ddydd Iau 15 Hydref, 12pm–2pm, gydag 8 sesiwn wythnosol
Hwb Lles Wrecsam

Mae ein rhaglen Meithrin Gwydnwch am ddim yn rhoi cyfle i rieni sy’n ofalwyr gymryd peth amser i ganolbwyntio arnyn nhw eu hunain, cwrdd â rhieni eraill a datblygu sgiliau bywyd ymarferol.

Dros wyth sesiwn, byddwn yn edrych ar bynciau gan gynnwys rheoli straen, hyder a hunan-barch, rheoli amser, gosod nodau, sgiliau cyfathrebu a chymhelliant.

Mae’r rhaglen ar gyfer rhieni sy’n ofalwyr yng Nghymru sydd â phlant a phobl ifanc anabl neu sydd ag anghenion ychwanegol, rhwng 0 a 25 oed, gyda diagnosis neu hebddo. Gofynnwn i gyfranogwyr fynychu pob un o’r wyth sesiwn, a byddwch yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau’r rhaglen.

Archebwch eich lle ar ein rhaglen Meithrin Gwydnwch

Mae pob un o’r tri gweithdy Contact Cymru yn rhan o’n prosiect Meithrin Gwydnwch, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Ffeiriau Gwybodaeth Dyfodol Cryfach yn y Rhyl a Wrecsam

Mae Dyfodol Cryfach yn cefnogi rhieni sy’n ofalwyr plant a phobl ifanc anabl neu sydd ag anghenion ychwanegol (hyd at 25 oed) yn Wrecsam a Sir Ddinbych, drwy gymorth un-i-un a chymorth grŵp.

Ym mis Hydref, rydym yn trefnu dwy ffair wybodaeth am ddim yn Wrecsam a’r Rhyl, lle bydd gwasanaethau a sefydliadau lleol eraill sy’n cefnogi rhieni sy’n ofalwyr yn ymuno â ni. Mae’n gyfle i siarad ag amrywiaeth o sefydliadau i gyd o dan yr un to a chael gwybod pa gymorth sydd ar gael i chi a’ch teulu.

Dydd Mawrth 6 Hydref, 10am–1pm
Canolfan ASK, y Rhyl

Dysgwch fwy yma

Dydd Mawrth 20 Hydref, 10am–1pm
Queens Square Social, Rhosddu Road, Wrecsam LL11 1AT

Dysgwch fwy yma

Mae Dyfodol Cryfach yn cael ei gefnogi a’i ariannu gan Neumark Foundation.