Places now open for Contact Cymru’s eight-week wellbeing programme in Wrexham

3 mins read

Friday 31 July 2026

Contact Cymru’s Wellbeing Programme has helped many parent carers across Wales get much-needed support and make connections with other families in the same boat.

This October, we’re bringing the eight-week programme to Wrexham. The course is open to families of disabled children and those with additional needs across North and Mid-Wales.

It’s a chance for parent carers to get some respite, focus on their own wellbeing, and meet other parent carers in a small, friendly setting.

The workshops are fun and relaxed and facilitated by Contact Cymru’s Parent Adviser, Sophie. Each two-hour session will cover topics such as:

  • Building your confidence, assertiveness and self-esteem.
  • How to handle meetings with schools and professionals.
  • Practical ways to manage stress and anxiety.
  • Where you can find ongoing support.

A free lunch buffet and hot drinks will also be provided during each session.

The programme is for parents and carers of children with disabilities or additional needs (with or without a diagnosis) who live in Wales.

Find out more and book a place on our Eventbrite site.

This programme is funded by the National Lottery Community Fund in Wales as part of Contact Cymru’s Building Resilience programme. The programme also includes parent carer online chats and our Wales Listening Ear service

Mae lleoedd bellach ar gael ar gyfer rhaglen lles wyth wythnos Contact Cymru yn Wrecsam.

Mae Rhaglen Les Contact Cymru wedi helpu llawer o rieni sy’n ofalwyr ledled Cymru i gael cymorth sydd ei angen yn fawr ac i gysylltu â theuluoedd eraill sydd yn yr un sefyllfa.

Ym mis Hydref, rydym yn dod â’r rhaglen wyth wythnos i Wrecsam, ar gyfer teuluoedd plant ag anableddau ac anghenion ychwanegol ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae’n gyfle i rieni sy’n ofalwyr ac yn brysur gael seibiant, canolbwyntio ar eu lles eu hunain, a chwrdd â rhieni eraill sy’n ofalwyr mewn awyrgylch bach a chyfeillgar.

Mae’r gweithdai yn hwyl, yn hamddenol ac yn anffurfiol, ac yn cael eu hwyluso gan Sophie, Cynghorydd Rhieni Contact Cymru. Bydd pob sesiwn dwy awr yn ymdrin â phynciau fel:

  • Adeiladu eich hyder, eich gallu i sefyll dros eich hun a’ch hunan-barch.
  • Sut i ymdrin â chyfarfodydd gydag ysgolion a gweithwyr proffesiynol.
  • Ffyrdd ymarferol o reoli straen a phryder.
  • Ble gallwch ddod o hyd i gymorth parhaus.

Darperir bwffe cinio am ddim a diodydd poeth hefyd yn ystod pob sesiwn.

Mae’r rhaglen ar gyfer rhieni a gofalwyr plant ag anableddau neu anghenion ychwanegol (gyda diagnosis neu hebddo) sy’n byw yng Nghymru.

Dysgwch fwy ac archebwch le yma.

Ariennir y rhaglen hon gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru fel rhan o raglen Adeiladu Gwydnwch (Building Resilience) Contact Cymru, sydd hefyd yn cynnwys cyfarfodydd ar-lein i rieni sy’n ofalwyr a’n gwasanaeth ‘Listening Ear’ yng Nghymru.