Workshops for Welsh families

4 mins read

Friday 18 October 2024

Contact Cymru is running several workshops this autumn, both online and face-to-face.

Sessions are open to parent carers of children with disabilities or additional needs (with or without a diagnosis) who live in Wales. Take a look at what’s on, and follow the links to find out more and book a place.

6-week Building Resilience programme, Newport

Starts Tuesday 5 November 2024 10:00-12:30

Our 6-week Building Resilience programme starts in November, with sessions usually running on Tuesday mornings at the Serennu Children’s Centre, Newport.

Led by Contact’s Parent Advisor, Sophie Barker, and wellbeing Coach Philomena Jordan-Patrikio, these sessions take place in a fun, informal and supportive environment and are designed to help you build confidence, manage stress and make positive changes. You’ll come away with new skills, connections, and a sense of empowerment!

Online workshops

Wellbeing Workshop Wed, 20 Nov 2024 10:00 – 12:00

A 2-hour session to help you learn how to manage stress and improve your wellbeing.

Support for Parents of Children with Anxiety Mon, 25 Nov 2024 11:00 – 13:00

This workshop discusses what anxiety is and gives you strategies to help your child.

Money Matters Workshop Fri, 29 Nov 2024 10:00 – 12:00

Advice on benefits and how to maximise your finances.

Understanding Sensory Processing Mon, 2 Dec 2024 12:00 – 14:00

A chance to understand more about sensory processing and how it impacts on how we feel, behave and learn. Explore strategies to support your family.

More coming soon

We’ll be adding more online workshops in the near future, so please keep an eye on our Contact Cymru Eventbrite page for details or check the Contact Cymru Facebook page.

For any queries related to these workshops, please email [email protected] .

Gweithdai i deuluoedd Cymraeg

Mae Contact Cymru yn cynnal sawl gweithdy yr hydref hwn, ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Mae’r sesiynau’n agored i rieni sy’n gofalu am blant ag anableddau neu anghenion ychwanegol (gyda neu heb ddiagnosis) sy’n byw yng Nghymru. Cymerwch olwg ar yr hyn sydd ymlaen a dilynwch y dolenni i ddarganfod mwy ac archebu lle.

Rhaglen lesiant 6 wythnos am ddim yng Nghasnewydd

Rhaglen lesiant 6 wythnos am ddim yng Nghasnewydd, Yn dechrau Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2024 10:00-12:30

Mae ein rhaglen Adeiladu Gwydnwch yn rhaglen 6 wythnos am ddim sy’n dechrau ym mis Tachwedd ac yn cael ei chynnal unwaith yr wythnos. Cynhelir y sesiynau hyn gan Gynghorydd Rhieni Contact Cymru, Sophie Barker, a’r Hyfforddwr Llesiant Philomena Jordan-Patrikio, mewn amgylchedd hwyliog, anffurfiol a chefnogol ac maent wedi’u cynllunio i’ch helpu i fagu hyder, rheoli straen a gwneud newidiadau cadarnhaol. Byddwch yn gadael gyda sgiliau newydd, cysylltiadau, ac yn teimlo wedi’ch grymuso!

Gweithdai ar-lein

Gweithdy llesiant Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2024 10:00 – 12:00

Sesiwn 2 awr i’ch helpu i ddysgu sut i reoli straen a gwella’ch llesiant.

Cefnogaeth i Rieni Plant sydd â Gorbryder Dydd Llun, 25 Tachwedd 2024 11:00 – 13:00

Mae’r gweithdy hwn yn trafod beth yw gorbryder ac yn rhoi strategaethau i chi i helpu’ch plentyn.

Gweithdy Rheoli Arian Dydd Gwener, 29 Tachwedd 2024 10:00 – 12:00

Cyngor ar fudd-daliadau lles a sut i wneud y gorau o’ch arian

Deall Prosesu Synhwyraidd ar gyfer rhieni sy’n gofalu yng Nghymru  Dydd Llun, 2 Rhagfyr 2024 12:00 – 14:00

Cyfle i ddeall mwy am brosesu synhwyraidd a sut mae’n effeithio ar sut rydyn ni’n teimlo, yn ymddwyn ac yn dysgu. Archwilio strategaethau i gefnogi eich teulu.

Mwy yn dod yn fuan

Byddwn yn ychwanegu mwy o weithdai ar-lein yn y dyfodol agos, felly cadwch lygad ar ein tudalen Eventbrite Contact Cymru am fanylion neu edrychwch ar dudalen Facebook Contact Cymru. Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r gweithdai hyn, anfonwch e-bost at [email protected].